R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. Russell George (Sir Drefaldwyn):Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o sicrhau effeithiolrwydd gwariant ar draws Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0486(FIN)
2. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed mewn perthynas ag ariannu gwaith datblygu seilwaith yng Nghymru? OAQ(4)0493(FIN)
3. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'i Gweinidog cyfatebol yn Llywodraeth yr Alban ynghylch cyllid ar gyfer y cenhedloedd datganoledig? OAQ(4)0490(FIN)
4. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa flaenoriaethau a gafodd eu hystyried gan Lywodraeth Cymru wrth ddyrannu cyllid i bortffolio yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yng nghanolbarth a gorllewin Cymru? OAQ(4)0497(FIN)W
5. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau ers cyfarfod cyntaf Cydbwyllgor y Trysorlysoedd ym mis Hydref? OAQ(4)0491(FIN)
6. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael am y dyraniad cyllidebol cyffredinol i'r portffolio Addysg a Sgiliau ar gyfer 2015/16? OAQ(4)0487(FIN)
7. Peter Black (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y symiau canlyniadol sy'n deillio o ddatganiad yr hydref Canghellor y DU? OAQ(4)0494(FIN)
8. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):Pa ffactorau y rhoddwyd ystyriaeth iddynt gan y Gweinidog wrth ddyrannu cyllid i bortffolio'r Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn y gyllideb derfynol? OAQ(4)0488(FIN)
9. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am y rhesymau dros beidio â chyhoeddi ffigurau gwariant a refeniw llawn ar gyfer Cymru, fel yr argymhellwyd gan y Comisiwn Silk? OAQ(4)0499(FIN)W
10. Gwenda Thomas (Castell-nedd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw symiau canlyniadol sy'n deillio o ddatganiad yr hydref yr wythnos ddiwethaf? OAQ(4)0498(FIN)
11. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y symiau canlyniadol Barnett diweddar sy'n deillio o ddatganiad yr hydref Canghellor y DU? OAQ(4)0489(FIN)
12. William Graham (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r trafodaethau y mae wedi'u cynnal gyda chydweithwyr cabinet ynghylch effaith 'Gwerth Cymru' ar uno posibl awdurdodau lleol? OAQ(4)0495(FIN)
13. Mick Antoniw (Pontypridd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru o ddatganiad yr hydref Llywodraeth y DU? OAQ(4)0485(FIN)
14. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau buddsoddi seilwaith yng ngorllewin Nghymru? OAQ(4)0484(FIN)
15. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y symiau canlyniadol Barnett i Gymru yn sgil datganiad yr hydref Llywodraeth y DU? OAQ(4)0496 (FIN) W
Gofyn i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am ba drafodaethau y mae wedi'u cael ynghylch y posibilrwydd o uno Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys? OAQ(4)0512(PS)
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0497(PS)
3. Sandy Mewies (Delyn): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn trais yn erbyn menywod dros gyfnod y Nadolig? OAQ(4)0505(PS)
4. Sandy Mewies (Delyn): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo ymgysylltiad y cyhoedd mewn llywodraeth leol?OAQ(4)0513(PS)
5. Christine Chapman (Cwm Cynon):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu argymhellion y Comisiwn ar Lywodraethu a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus mewn perthynas â gwasanaethau awdurdod lleol? OAQ(4)0508(PS)W
6. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau y mae wedi'u cael gydag Undeb y Brigadau Tân ynghylch trefniadau pensiwn? OAQ(4)0506(PS)
7. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfrifoldebau cynghorwyr awdurdodau lleol? OAQ(4)0502(PS)
9. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch datganoli plismona? OAQ(4)0507(PS)W
10. David Rees (Aberafan):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau'r defnydd o gontractau dim oriau yn y sector cyhoeddus? OAQ(4)0499(PS)
11. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am uno cynghorau? OAQ(4)0501(PS)
12. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am warchod mynwentydd yng Nghymru? OAQ(4)0496(PS)
13. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllidebau awdurdodau lleol yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0498(PS)
13. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa gynnydd y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ran gwireddu argymhellion Syr Paul Williams ers iddo ymgymryd â’i swydd? OAQ(4)0503(PS)W
14. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran uno gwirfoddol awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ(4)0509(PS)
15. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei flaenoriaethau ar gyfer gwella cydweithio rhwng awdurdodau lleol? OAQ(4)0510(PS)